Trugarog iawn yw'r Arglwydd Iôr,
Ei ras sydd eang fel y môr;
Yn fore rhydd
faddeuant llwyr,
Mae'n gado digter hyd yr hwyr.
Daionus yw i bawb; fe ddyd
Drugaredd ar Ei waith i gyd:
Dy holl weithredoedd, Arglwydd Dduw,
Glodforant fyth Dy enw gwiw.
Y rhai a syrthiant dan eu clwy,
Tydi sydd yn eu cynnal hwy;
Tydi sy'n codi pawb i'r làn
A ddarostyngwyd, ymhob man.
William Thomas (Islwyn) 1832-78
Tonau [MH 8888]: |
Very merciful is the Sovereign Lord,
His grace is wide like the sea;
In the morning he gives
complete forgiveness,
He keeps his anger until the evening.
He is good to all; he puts
Mercy on all his work:
All thy deeds, Lord God,
Praise forever thy worthy name.
Those who fall under their illness,
'Tis thou who art their support;
'Tis thou who dost raise up all
Who were humbled, everywhere.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|